Mae eich profiad yn bwysig: Helpu i werthuso'r system ardystio marwolaethau newydd

Rydym am wybod sut mae'r diwygiadau i ardystio marwolaethau a'r system archwilio meddygol statudol yn gweithio'n ymarferol

Closed

Ynglŷn â'r prosiect hwn

  • Yng Nghymru a Lloegr, daeth diwygiadau i ardystio marwolaethau i rym ym mis Medi 2024, gan gynnwys cyflwyno system archwilio meddygol statudol i graffu ar bob marwolaeth nad yw'n farwolaeth grwnerol. Nod y diwygiadau yw gwella diogelwch y cyhoedd, ansawdd data ardystio marwolaethau a data marwolaethau, ymgysylltu â theuluoedd mewn profedigaeth, a chysondeb atgyfeiriadau i’r crwner.
  • Nod y prosiect hwn yw gwerthuso gweithrediad y diwygiadau i ardystio marwolaethau a'r system archwilio meddygol statudol. Rydym am ddeall eich profiadau o roi'r diwygiadau ar waith - beth sy'n gweithio'n dda, pa heriau rydych chi'n eu hwynebu, ac a yw'r diwygiadau'n cyflawni'r manteision a fwriadwyd.
  • Mae'r prosiect hwn yn cael ei gynnal gan BRACE Rapid Evaluation Centre, cydweithrediad rhwng Prifysgol Birmingham, RAND Europe, Prifysgol Caergrawnt a Thiscovery.
Logos prosiect
No items found.

Cyn i chi ddechrau

  • I gymryd rhan mae angen i chi fod yn Uwch Grwner, yn Grwner Ardal, yn Grwner Cynorthwyol, yn Swyddog y Crwner, neu'n arweinydd tîm mewn ardal grwner yng Nghymru neu Loegr.
  • Gofynnir i chi gwblhau arolwg ar-lein am eich profiadau o'r diwygiadau i ardystio marwolaethau a sut mae'r system ardystio marwolaethau ar ôl Medi 2024 yn gweithredu.
  • Mae'r arolwg yn cynnwys cwestiynau am yr hyn sy'n gweithio'n dda, unrhyw heriau rydych chi wedi'u hwynebu, a'ch barn chi ar effaith y diwygiadau.
  • Nid oes rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau os nad ydych chi eisiau gwneud hynny.
  • Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau.
  • Bydd eich ymatebion yn gwbl ddienw ac ni ellir eu holrhain yn ôl atoch chi.
  • Rydym o ddifrif ynghylch cyfrinachedd a diogelu data. Darllenwch fwy am sut rydym yn trin eich data.

Cymerwch ran

Dylai'r arolwg hwn gymryd tua 10 munud i'w gwblhau.

Noder bod yr arolwg yn cymryd tua 10 eiliad i lwytho.

Dyddiad cau:
TBC
Closed

Tîm ymchwil

Mae'r prosiect hwn yn cael ei arwain gan dîm aml-sefydliadolsy'n cynnwys:

Yr Athro Jo Ellins

Yr Athro Jo Ellins

Prif Ymchwilydd

Prifysgol Birmingham

Dr Alisi Mekatoa

Dr Alisi Mekatoa

Rheolwr Prosiect

Prifysgol Birmingham

Kayleigh Sharp

Kayleigh Sharp

Dadansoddwr

RAND Europe

Oes gennych chi gwestiwn?

Am gwestiynau am yr ymchwil hon: help@thiscovery.org

Gwybodaeth Fanwl i Gyfranogwyr

I gael rhagor o fanylion am y prosiect hwn, darllenwch y wybodaethisod

Pwy sy'n cynnal y prosiect hwn

  • Mae'r prosiect hwn yn cael ei gynnal gan BRACE Rapid Evaluation Centre, cydweithrediad rhwng Prifysgol Birmingham, RAND Ewrop, Prifysgol Caergrawnt a Thiscovery. Mae BRACE wedi'i ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR). Gallwch ddysgu mwy am BRACE ar NIHR BRACE Rapid Evaluation Centre - Prifysgol Birmingham.
  • Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal ar Thiscovery, platfform diogel ar-lein ar gyfer ymchwil iechyd. Caiff Thiscovery ei redeg gan THIS Labs, sefydliad annibynnol sy'n helpu gydag ymchwil iechyd.
  • Mae'r gwaith ymchwil hwn wedi ei adolygu a'i gymeradwyo gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Prifysgol Birmingham.

Beth mae cymryd rhan yn ei olygu?

Sut ydw i'n cymryd rhan?

  • Bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad i weld a ydych yn gymwys a llenwi ffurflen gydsynio ar-lein, cyn cwblhau'r arolwg.
  • Ar y diwedd, byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau dewisol am eich cefndir proffesiynol.

Oes rhaid i mi ateb yr holl gwestiynau?

  • Nid oes rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y byddwch yn ateb cymaint o gwestiynau â phosibl, gan y bydd hyn yn darparu'r wybodaeth orau bosibl am eich barn a'ch profiadau.

Faint o amser fydd yn ei gymryd?

  • Mae disgwyl i'r arolwg gymryd tua 10 munud, ond gallwch gymryd cymaint o amser ag sydd ei angen arnoch i lenwi'r arolwg.

Ga i gymryd seibiant ar ganol ateb cwestiynau?

  • Cewch – does dim rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau ar unwaith ond os oes angen i chi gymryd seibiant, cadwch y porwr ar agor fel na fyddwch chi’n colli’r hyn rydych chi wedi’i wneud.
  • Ar ôl i chi gwblhau pob tudalen, pwyswch y botwm 'nesaf' neu 'cyflwyno' fel y byddwn yn derbyn eich ymatebion hyd at y pwynt hwnnw.

Ga i ofyn am help i ateb y cwestiynau?

  • Cewch. Gallwch ofyn i rywun eich helpu i ganfod eich ffordd drwy Thiscovery neu ateb y cwestiynau, os hoffech.
  • Os gofynnwch am help, cofiwch ateb y cwestiynau o'ch safbwynt eich hun, yn hytrach na barn y sawl sy'n helpu.

Oes dyddiad cau ar gyfer ateb y cwestiynau?

  • Mae'r arolwg yn cau ar gyfer ymatebion ar [add date here].  

Beth os ydw i eisiau rhoi'r gorau i gymryd rhan?

  • Os gwnaethoch chi ddewis darparu cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg, gallwch chi dynnu data personol a/neu ddata ymchwil yn ôl hyd at wythnos ar ôl i'r arolwg gau [insert date].
  • Os na fyddwch yn darparu eich manylion cyswllt, ni fyddwn yn gallu dileu eich atebion i’r arolwg yn ddiweddarach. Mae hyn oherwydd na fyddwn yn gwybod pa atebion yw eich rhai chi.
  • I dynnu'n ôl o'r prosiect anfonwch e-bost at help@thiscovery.org

Pa fanteision allai fod i gymryd rhan?

  • Drwy gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, bydd cyfle i chi rannu eich barn ar y diwygiadau i ardystio marwolaethau a gweithrediad y system archwilio meddygol statudol. Bydd y safbwyntiau hyn yn helpu tîm y prosiect i ddeall beth sy'n gweithio'n dda, nodi heriau, a llywio gwelliannau i'r broses ardystio marwolaethau.

A oes unrhyw anfanteision neu risgiau o gymryd rhan?

  • Nid ydym yn rhagweld bod unrhyw risgiau ynghlwm wrth gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Nid oes rhaid i chi ateb unrhyw gwestiynau nad ydych chi eisiau a gallwch roi’r gorau iddi ar unrhyw adeg. Os ydych chi'n teimlo bod cymryd rhan yn y prosiect hwn yn peri gofid i chi mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni'n uniongyrchol drwy help@thiscovery.org.

Beth fydd yn digwydd i ganfyddiadau'r prosiect?

Beth fydd yn digwydd i'm hatebion?

  • Bydd eich atebion yn cael eu dadansoddi ynghyd ag atebion yr holl gyfranogwyr eraill a byddant yn cael eu defnyddio i werthuso gweithrediad, darpariaeth a chanlyniadau cynnar y diwygiadau i ardystio marwolaethau.
  • Bydd canfyddiadau’r prosiect yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiadau ar-lein ac efallai y cânt eu cyhoeddi hefyd mewn cyfnodolion academaidd a’u cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Ni fydd neb yn gallu eich adnabod mewn unrhyw ganfyddiadau a gyhoeddir; mae eich ymatebion yn ddienw.

Sut alla i ddysgu am ganfyddiadau'r prosiect?

  • Byddwch yn cael crynodeb o'r canfyddiadau drwy e-bost pan fyddant yn barod, os ydych wedi dewis i’r prosiect gysylltu â chi at y diben hwn. Gallwch roi gwybod i ni ar ddiwedd yr arolwg.

Sut bydd y prosiect yn gofalu am fy nata?

Mae eich preifatrwydd yn bwysig ini

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Brifysgol Birmingham a'n tîm yma yn Thiscovery. Rydym yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel ac yn saff.

Bydd y gwaith ymchwil hwn yn ein helpu i ddeall sut mae'r diwygiadau i ardystiomarwolaethau a'r system archwilio meddygol statudol yn gweithio'n ymarferol, a nodible y gall gwelliannau gael eu gwneud.

Pwy sy'n casglu eich gwybodaeth?

Mae'r arolwg hwn yn cael ei gynnal ar Thiscovery, platfform ar-lein diogel argyfer ymchwil iechyd. Caiff Thiscovery ei redeg gan THIS Labs, sefydliad annibynnolsy'n helpu gydag ymchwil iechyd. Rydym yn cydweithio â Phrifysgol Birmingham i gynnaly gwaith ymchwil hwn.

Mae Thiscovery yn casglu eich atebion i’r arolwg ar gyfer Prifysgol Birmingham. Rydym yn dilyn rheolau llym i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel.

Pa wybodaeth fyddwn ni'n ei chasglu?

Eich atebion am:

  • Eich profiadauo weithredu a chyflawni'r diwygiadau ardystio marwolaethau
  • Sut maeproses graffu'r archwilydd meddygol yn gweithio'n ymarferol
  • Eich cysylltiadauâ phobl mewn profedigaeth a gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau eraill sy'n ymwneudâ'r broses ardystio marwolaethau
  • Beth sy'ngweithio'n dda a pha heriau sydd wedi codi
  • Unrhyw anghenion hyfforddi, datblygu neu gymorth

Gwybodaeth amdanoch chi:

  • Eich rôl broffesiynol a'ch profiad
  • Y rhanbarth lle rydych chi'n gweithio

Eich manylion cyswllt (dewisol):

  • Eich enw a'ch cyfeiriad e-bost
  • Dim ond os ydych chi eisiau'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau'r ymchwil, i gael gwybod am brosiectau perthnasolyn y dyfodol neu i gael tystysgrif drwy e-bost sy'n tystio eich bod wedi cymrydrhan ar gyfer eich portffolio Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) neu bortffolio hyfforddiant.

Pwysig: Nid ydym yn casglu eich enw yn ystodyr arolwg. Ond gallai'r gymysgedd o wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni ei gwneudhi'n bosibl i ni ddarganfod pwy ydych chi.

Hawl i dynnu'n ôl: Gallwch roi'r gorau i gymrydrhan ar unrhyw adeg a dewis peidio ag ateb unrhyw gwestiynau. Os gwnaethoch chiddewis darparu cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg, gallwch chi dynnu data personola/neu ymchwil yn ôl hyd at wythnos ar ôl i'r arolwg gau [insert date].

Os na wnaethoch chi ddarparu cyfeiriad e-bost, ni fyddwch yn gallu tynnu'n ôlgan na fydd Thiscovery yn gallu adnabod eich ymatebion.  

I dynnu'n ôl o'r prosiect anfonwch e-bost at help@thiscovery.org

Moeseg Ymchwil y Brifysgol a diogeludata: Cynheliry gwaith ymchwil hwn yn unol â Pholisi Diogelu Data Prifysgol Birmingham a chyfreithiau diogelu data GDPRy DU.

Pam allwn ni ddefnyddio eich gwybodaeth?

Yn achos eich atebion i’r arolwg:Mae angenhyn arnom er mwyn i Brifysgol Birmingham allu cynnal ymchwil sy'n helpu i ddeallsut mae'r system ardystio marwolaethau a'r gwasanaeth archwilio meddygol statudolyn gweithio, a nodi unrhyw ffyrdd y gellid eu gwella.

Yn achos data categori arbennig (iechyd): Efallai y bydd angeni ni ddeall profiadau ar draws gwahanol grwpiau demograffig er mwyn sicrhau body system yn gweithio'n dda i bob poblogaeth.

Yn achos eich manylion cyswllt: Dim ond os dewiswch eu rhoii ni. Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd.

Sut fyddwn ni'n cadw eich gwybodaethyn ddiogel?

Rydym yn cadw pethau ar wahân:

  • Caiff eich manylion cyswllteu cadw ar wahân i’ch atebion i’r arolwg
  • Mae eich atebion i’r arolwgyn defnyddio rhif yn lle eich enw
  • Mae hyn yn golygu na allwngysylltu eich enw â'ch atebion

Rydym yn defnyddio systemau diogel:

  • Mae'r holl wybodaeth yn caelei hamgryptio (ei sgramblo) a'i storio'n ddiogel
  • Dim ond y tîm ymchwil allweld eich gwybodaeth
  • Rydym yn dilyn Cod Ymarferar gyfer Ymchwil a Chod Moeseg Prifysgol Birmingham
  • Rydym yn defnyddio offer dileuardystiedig pan fyddwn yn dileu data

Dadansoddi a throsglwyddo data:

  • Bydd Thiscovery yn edrych ar eich atebion i’r arolwg yn gyntaf ac yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer Prifysgol Birmingham
  • Ar ôl cwblhau'r dadansoddiad, bydd Thiscovery yn trosglwyddo eich atebion i’r arolwg yn ddiogel (gyda'ch enw wedi'i dynnu) i Brifysgol Birmingham a fydd yn storio’r data yn ddiogel yn unol â'u polisïau 'Diogelu Data' a 'Rheoli a Diogelwch Gwybodaeth'.
  • Unwaith y bydd Prifysgol Birmingham yn cadarnhau eu bod wedi derbyn y data yn ddiogel, bydd Thiscovery yn dinistrio eu copi yn ddiogel.

Pwysig: Nid yw anfon gwybodaeth dros y rhyngrwydbyth 100% yn ddiogel. Rydym yn gwneud ein gorau i'w ddiogelu, ond ni allwn addodiogelwch llwyr.

 phwy fyddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth?

Byddwn yn rhannu eich data â:

  • Prifysgol Birmingham (sy'narwain y gwaith ymchwil hwn)

Os byddwch yn rhoi eich manylion cyswllt i ni, dim ond Thiscovery neu Brifysgol Birmingham fydd yn cysylltu â chi ynglŷn â'r ymchwil.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Eich atebion i’r arolwg:

  • Bydd Thiscovery yn dileu pobateb yn ddiogel ar ôl i'r dadansoddiad gael ei gwblhau ac ar ôl i'r data gael eidrosglwyddo'n ddiogel i Brifysgol Birmingham – bydd hyn 24 mis ar y mwyaf ar ôli'r arolwg gau. Mae Prifysgol Birmingham yn cadw data am 10 mlynedd yn unol â pholisïaurheoli data ymchwil

Eich manylion cyswllt:

  • Yn cael eu dileu ar unwaithos gofynnwch i ni eu dileu
  • Yn cael eu dileu 24 mis arôl diwedd y prosiect oni bai eich bod yn cydsynio i ni aros mewn cysylltiad â chi.

Crynodebau ymchwil: Gellir eu cadw am byth i helpui lywio astudiaethau yn y dyfodol (ond ni fydd y rhain yn dweud pwy ydych chi).

Eich dewisiadau a'ch hawliau

Gallwch:

  • Roi'r gorau i gymryd rhanar unrhyw adeg yn ystod yr arolwg
  • Hepgor cwestiynau nad ydychchi eisiau eu hateb
  • Gofyn i weld pa wybodaethsydd gennym amdanoch chi
  • Gofyn i ni gywiro gwybodaethanghywir
  • Gofyn i ni ddileu eich manylioncyswllt (byddwn yn gwneud hyn ar unwaith)
  • Cwyno os nad ydych chi'n hapus

Pwysig:

  • Os na fyddwch chi'n rhoi eichmanylion cyswllt i ni, efallai na fyddwn ni'n gallu dileu eich atebion i’r arolwgyn ddiweddarach. Mae hyn am na fyddwn yn gwybod pa atebion yw eich rhai chi.
  • Unwaith y byddwn yn trosglwyddoeich data yn yr arolwg i Brifysgol Birmingham, ni allwn ei gael yn ôl na'i ddileuo'u systemau.

Canlyniadau ymchwil

Os byddwch yn rhoi eich manylion cyswllt i ni, bydd Thiscovery a Phrifysgol Birmingham yn dweud wrthych:

  • Yr hyn a ddarganfuwyd ganyr ymchwil
  • Sut mae'r canfyddiadau'n caeleu defnyddio i wella'r system ardystio marwolaethau a'r gwasanaeth archwilio meddygol

Cysylltu â ni

Cwestiynau am yr arolwg:

Anfonwch e-bost i Thiscovery: help@thiscovery.org

Cwestiynau am yr ymchwil:

Anfonwch e-bost i Dr Alisi Mekatoa: A.Mekatoa@bham.ac.uk

Cwestiynau am sut mae Prifysgol Birminghamyn defnyddio gwybodaeth:

Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol: data-protection@bham.ac.uk

Cwynion:

Os oes gennych unrhyw bryderon a hoffech gysylltu â rhywun sy'n annibynnol aryr astudiaeth, cysylltwch â:

Yr Athro Rana Jawad

Pennaeth Ymchwil

Ysgol Polisi Cymdeithasol a Chymdeithas

Prifysgol Birmingham

R.Jawad@bham.ac.uk

Problemau diogelu data:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - ico.org.uk

Eich cydsyniad

Drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn, rydych yn cytuno i’r canlynol:

  • Gall Prifysgol Birminghamddefnyddio eich atebion i ymgymryd â'r gwaith ymchwil hwn ar y diwygiadau i ardystiomarwolaethau a'r system archwilio meddygol statudol
  • Gall Thiscovery gasglu eichatebion ar gyfer Prifysgol Birmingham
  • Rydych chi'n deall y byddeich gwybodaeth yn cael ei rhannu â Phrifysgol Birmingham
  • Rydych chi wedi darllen adeall yr hysbysiad preifatrwydd hwn

Gallwch roi'r gorau i gymryd rhan ar unrhyw adeg.

Diolch i chi am ein helpu i ddeall sut mae'r diwygiadaui ardystio marwolaethau a'r system archwilio meddygol yn gweithio, a sut y gellireu gwella.

Beth os oes gen i gŵyn neu bryder?

  • Yn achos problemau technegol neu gwestiynau am y platfform, cysylltwch â thîm Thiscovery ar help@thiscovery.org.
  • Os oes gennych gŵyn am unrhyw agwedd ar y prosiect, cysylltwch â'r Athro Jo Ellins (Prif Ymchwilydd) ym Mhrifysgol Birmingham jlellins@bham.ac.uk
  • Os hoffech chi gofnodi cwyn am sut rydym wedi trin eich gwybodaeth, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r brifysgol ar data-protection@bham.ac.uk
  • Os nad ydych chi'n hapus â'u hymateb neu'n credu eu bod nhw'n prosesu eich data mewn ffordd nad yw'n gywir neu’n gyfreithlon, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ar www.ico.org.uk neu ffonio 0303 123 1113.
Data security
Thiscovery takes the security of your information seriously. Thiscovery's privacy policy describes the way information is collected, used, and protected to ensure that your data is safe.