Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Brifysgol Birmingham a'n tîm yma yn Thiscovery. Rydym yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel ac yn saff.
Bydd y gwaith ymchwil hwn yn ein helpu i ddeall sut mae'r diwygiadau i ardystio marwolaethau a'r system archwilio meddygol statudol yn gweithio'n ymarferol, a nodi ble y gall gwelliannau gael eu gwneud.
Mae'r arolwg hwn yn cael ei gynnal ar Thiscovery, platfform ar-lein diogel ar gyfer ymchwil iechyd. Caiff Thiscovery ei redeg gan THIS Labs, sefydliad annibynnol sy'n helpu gydag ymchwil iechyd. Rydym yn cydweithio â Phrifysgol Birmingham i gynnal y gwaith ymchwil hwn.
Mae Thiscovery yn casglu eich atebion i’r arolwg ar gyfer Prifysgol Birmingham. Rydym yn dilyn rheolau llym i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel.
Eich atebion am:
Gwybodaeth amdanoch chi:
Eich manylion cyswllt (dewisol):
Pwysig: Nid ydym yn casglu eich enw yn ystod yr arolwg. Ond gallai'r gymysgedd o wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni ei gwneud hi'n bosibl i ni ddarganfod pwy ydych chi.
Hawl i dynnu'n ôl: Gallwch roi'r gorau i gymryd rhan ar unrhyw adeg a dewis peidio ag ateb unrhyw gwestiynau. Os gwnaethoch chi ddewis darparu cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg, gallwch chi dynnu data personola/neu ymchwil yn ôl hyd at wythnos ar ôl i'r arolwg gau 21 Medi 2026.
Os na wnaethoch chi ddarparu cyfeiriad e-bost, ni fyddwch yn gallu tynnu'n ôl gan na fydd Thiscovery yn gallu adnabod eich ymatebion.
I dynnu'n ôl o'r prosiect anfonwch e-bost at help@thiscovery.org
Moeseg Ymchwil y Brifysgol a diogelu data: Cynhelir y gwaith ymchwil hwn yn unol â Pholisi Diogelu Data Prifysgol Birmingham a chyfreithiau diogelu data GDPR y DU.
Yn achos eich atebion i’r arolwg: Mae angen hyn arnom er mwyn i Brifysgol Birmingham allu cynnal ymchwil sy'n helpu i ddeall sut mae'r system ardystio marwolaethau a'r gwasanaeth archwilio meddygol statudol yn gweithio, a nodi unrhyw ffyrdd y gellid eu gwella.
Yn achos data categori arbennig (iechyd): Efallai y bydd angen i ni ddeall profiadau ar draws gwahanol grwpiau demograffig er mwyn sicrhau bod y system yn gweithio'n dda i bob poblogaeth.
Yn achos eich manylion cyswllt: Dim ond os dewiswch eu rhoi i ni. Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd.
Rydym yn cadw pethau ar wahân:
Rydym yn defnyddio systemau diogel:
Dadansoddi a throsglwyddo data:
Pwysig: Nid yw anfon gwybodaeth dros y rhyngrwyd byth 100% yn ddiogel. Rydym yn gwneud ein gorau i'w ddiogelu, ond ni allwn addo diogelwch llwyr.
Byddwn yn rhannu eich data â:
Os byddwch yn rhoi eich manylion cyswllt i ni, dim ond Thiscovery neu Brifysgol Birmingham fydd yn cysylltu â chi ynglŷn â'r ymchwil.
Eich atebion i’r arolwg:
Eich manylion cyswllt:
Crynodebau ymchwil: Gellir eu cadw am byth i helpu i lywio astudiaethau yn y dyfodol (ond ni fydd y rhain yn dweud pwy ydych chi).
Gallwch:
Pwysig:
Os byddwch yn rhoi eich manylion cyswllt i ni, bydd Thiscovery a Phrifysgol Birmingham yn dweud wrthych:
Cwestiynau am yr arolwg:
Anfonwch e-bost i Thiscovery: help@thiscovery.org
Cwestiynau am yr ymchwil:
Anfonwch e-bost i Dr Alisi Mekatoa: A.Mekatoa@bham.ac.uk
Cwestiynau am sut mae Prifysgol Birmingham yn defnyddio gwybodaeth:
Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol: data-protection@bham.ac.uk
Cwynion:
Os oes gennych unrhyw bryderon a hoffech gysylltu â rhywun sy'n annibynnol ar yr astudiaeth, cysylltwch â
Yr Athro Rana Jawad
Pennaeth Ymchwil
Ysgol Polisi Cymdeithasol a Chymdeithas
Prifysgol Birmingham
R.Jawad@bham.ac.uk
Problemau diogelu data:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - ico.org.uk
Drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn, rydych yn cytuno i’r canlynol:
Gallwch roi'r gorau i gymryd rhan ar unrhyw adeg.
Diolch i chi am ein helpu i ddeall sut mae'r diwygiadau i ardystio marwolaethau a'r system archwilio meddygol yn gweithio, a sut y gellir eu gwella.