Rhowch eich adborth i ni ar syniadau ac atebion ymarferol ar gyfer sut y gellid gwella cymorth i bobl sy'n ddall neu â golwg rhannol

Rhannwch eich barn ar syniadau arfaethedig ac atebion ymarferol ar gyfer sut y gellid gwella cymorth i bobl ddall a phobl â golwg rhannol.

Y prosiect hwn

 

Mae’r RNIB yn cynnal ail gam o ymchwil. Yn y cam cyntaf, gofynnon nhw am syniadau newydd ar sut y gellid gwella cymorth i bobl ag amhariad ar eu golwg, a'r profiadau o gael neu o ddarparu cymorth. Buon nhw’n holi pobl sy'n ddall neu â golwg rhannol, eu cefnogwyr, a phobl eraill sy'n ymwneud â gwasanaethau cymorth amhariad ar y golwg.

Maen nhw wedi defnyddio'r canfyddiadau i ddatblygu rhestr o syniadau ac atebion ymarferol. Bydd yr arolwg yn gofyn pa syniadau rydych chi'n eu hystyried yn ddefnyddiol a ddim yn ddefnyddiol a pha rai rydych chi'n credu y dylid eu blaenoriaethu.

Maen nhw eisiau clywed gan bobl sy'n ddall neu â golwg rhannol, gan ffrindiau agos, teuluoedd, gofalwyr ac unrhyw un sy'n cefnogi rhywun sy'n ddall neu â golwg rhannol, a gan y rhai sy'n gweithio neu sy'n ymwneud â chymorth neu wasanaethau amhariad ar y golwg.

Mae'r prosiect hwn wedi'i gynllunio gyda ac ar gyfer pobl sydd â phrofiad bywyd o amhariad ar y golwg, ac mae'n cael ei arwain gan yr RNIB.

Would you prefer to complete this survey in English? Go to the English project page.

Logo RNIB

Cyn i chi ddechrau

  • I gymryd rhan mae angen i chi:
    • fod yn rhywun sy'n ddall neu â golwg rhannol,
    • fod yn ffrind agos, yn aelod teuluol neu’n ofalwr ar gyfer y grŵp uchod
    • fod yn rhywun sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phobl ddall neu bobl â golwg rhannol (er enghraifft, fel arbenigwr adsefydlu golwg, optegydd, clinigydd)
    • fod yn rhywun sy'n weithgar neu'n ymwneud â chymorth neu wasanaethau amhariad ar y golwg (er enghraifft, ym maes rheoli neu gomisiynu)
  • Byddwch yn gweld rhestr o syniadau ac atebion ymarferol a bydd angen i chi ddweud wrthon ni pa syniadau rydych chi’n credu eu bod yn ddefnyddiol neu ddim yn ddefnyddiol a pham, a pha syniadau a gwelliannau y dylid eu blaenoriaethu.
  • Bydd ychydig o gwestiynau dewisol amdanoch chi hefyd (er enghraifft, oedran, rhywedd, ethnigrwydd).
  • Os ydych chi'n rhywun sy'n ddall neu â golwg rhannol, neu'n ffrind agos neu'n aelod o'r teulu sy'n cefnogi rhywun ag amhariad ar y golwg, byddwn ni hefyd yn gofyn ychydig i chi am yr amhariad ar y golwg.
  • Os ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol gyda phobl sy'n ddall neu â golwg rhannol neu sydd ag amhariad ar eu golwg, byddwn ni hefyd yn holi am eich rôl broffesiynol.
  • Mae angen i chi fod dros 18 oed i gymryd rhan.
  • Os hoffech gael crynodeb o'r canlyniadau, byddwn yn gofyn i chi roi’ch enw a'ch cyfeiriad e-bost i ni ar y diwedd.
  • Does dim rhaid i chi gwblhau’r arolwg i gyd ar unwaith, ond os bydd angen i chi gymryd seibiant, cadwch ffenest eich arolwg ar agor fel y gallwch gario ymlaen o ble rydych wedi cyrraedd.
  • Rydyn ni’n cymryd cyfrinachedd a diogelu data o ddifri. Darllenwch fwy am sut rydyn ni’n trin eich data.

Tîm ymchwil

Mae'r prosiect hwn yn cael ei arwain gan y tîm yn yr RNIB.

Caroline Beard - Pennaeth Arloesi Strategol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch unrhyw beth sy'n ymwneud â'r prosiect, anfonwch e-bost at y tîm ymchwil drwy help@thiscovery.org.

Cymryd rhan

Tua 30 munud y dylai'r arolwg ei gymryd i'w lenwi.

Dyddiad cau: 8 Hydref 2025

Pwy sy'n rhedeg y prosiect hwn?

  • Mae'r prosiect hwn yn cael ei arwain gan yr RNIB, sef prif elusen colled golwg gwledydd Prydain. Gallwch ddysgu mwy am yr RNIB ar eu gwefan.
  • Bydd y prosiect yn cael ei gynnal ar Thiscovery, sef llwyfan ar-lein diogel sy'n galluogi'r system iechyd a gofal i wella ac arloesi drwy gydweithio. Mae Thiscovery wedi'i ddatblygu a'i redeg gan THIS Labs, sefydliad annibynnol a ffurfiwyd fel cywaith strategol rhwng THIS Institute a The Health Foundation. Mae THIS Labs yn gweinyddu'r prosiect hwn ar ran yr RNIB.

Beth mae cymryd rhan yn ei olygu?

Sut mae cymryd rhan?

  • Dyma’r ail arolwg fel rhan o brosiect ymchwil yr RNIB.
  • I gymryd rhan, gofynnir i chi gwblhau cwestiynau ynghylch bod yn gymwys i wneud yr arolwg a ffurflen gydsyniad ar-lein. Gofynnir i chi am eich barn ar y syniadau a'r atebion ymarferol rydych chi’n credu y bydden nhw’n ddefnyddiol neu ddim yn ddefnyddiol, petaen nhw’n cael eu rhoi ar waith, a pha rai y dylid eu blaenoriaethu.

Oes rhaid i fi ateb pob cwestiwn?

  • Does dim rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau, ac eithrio'r rhai sy'n hanfodol er mwyn gwneud eich ffordd drwy'r arolwg (er enghraifft, cwblhau cwestiynau o ran bod yn gymwys i wneud yr arolwg a chydsyniad). Rydyn ni’n gobeithio y byddwch yn ateb cymaint o gwestiynau â phosib, gan y bydd hyn yn rhoi'r wybodaeth orau bosib i ni am eich barn a'ch profiad chi.

Faint o amser fydd hyn yn ei gymryd?

  • Disgwylir i'r arolwg gymryd tua 30 munud, ond cofiwch y gallwch gymryd cymaint o amser ag sydd ei angen arnoch i lenwi'r arolwg.

Ga i gymryd seibiant yng nghanol ateb cwestiynau?

  • Cewch – does dim rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau ar unwaith ond os bydd angen i chi gymryd seibiant, cadwch y porwr ar agor fel na fyddwch chi'n colli'ch atebion.
  • Ar ôl i chi gwblhau pob tudalen, dewiswch y botwm 'nesaf' neu 'cyflwyno' er mwyn sicrhau y byddwn ni’n cael eich ymatebion hyd at y pwynt hwnnw.

Alla i ofyn am gymorth i gwblhau'r cwestiynau?

  • Gallwch. Gallwch ofyn i rywun eich helpu i fynd drwy'r arolwg neu i ateb y cwestiynau, os hoffech. Gallai hyn fod yn aelod o'r teulu neu'n ffrind, er enghraifft.
  • Os byddwch yn gofyn am gymorth, atebwch y cwestiynau o'ch safbwynt eich hunan, yn hytrach na barn y sawl sy'n helpu.

Oes dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r cwestiynau?

  • Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r cwestiynau yw 8 Hydref 2025. Atebwch yr holl gwestiynau yr hoffech eu hateb erbyn y dyddiad hwn.

Beth os bydda i eisiau rhoi'r gorau i gymryd rhan?

  • Os byddwch chi'n newid eich meddwl ynglŷn â chymryd rhan yn y prosiect hwn, gallwch dynnu'n ôl unrhyw bryd heb roi rheswm. Fodd bynnag, efallai na fydd yn bosib dileu data sydd eisoes wedi'i gyflwyno. I dynnu'n ôl o'r prosiect, anfonwch e-bost at help@thiscovery.org.

Beth yw manteision posib cymryd rhan?

  • Drwy gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, cewch gyfle i roi adborth ar restr o syniadau ac atebion ymarferol ar gyfer gwella cymorth i bobl sy'n ddall neu â golwg rhannol. Bydd y ddealltwriaeth hon yn helpu tîm y prosiect yn yr RNIB i nodi pa syniadau ac atebion y dylid bwrw ymlaen â nhw yn eu gwaith.

A oes anfanteision neu risgiau o gymryd rhan?

  • Dydyn ni ddim yn rhagweld unrhyw risgiau i chi o gymryd rhan. Does dim rhaid i chi ateb unrhyw gwestiynau nad ydych chi’n dymuno eu hateb a gallwch roi’r gorau iddi unrhyw bryd. Os ydych chi'n teimlo bod cymryd rhan yn y prosiect hwn yn peri gofid i chi mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni'n uniongyrchol drwy help@thiscovery.org.

Beth fydd yn digwydd i ganfyddiadau'r prosiect?

Beth fydd yn digwydd i fy atebion?

  • Bydd eich atebion yn cael eu dadansoddi ynghyd ag atebion yr holl gyfranogwyr eraill a byddan nhw’n cael eu defnyddio i gefnogi proses o wneud penderfyniadau ynghylch pa syniadau ac atebion ymarferol fyddai'n ddefnyddiol, pe baen nhw’n cael eu rhoi ar waith, a pha rai y dylai’r RNIB eu blaenoriaethu yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
  • Gallai canfyddiadau’r prosiect hefyd gael eu cyhoeddi mewn adroddiadau ar-lein neu gyfnodolion, a gellir rhoi cyhoeddusrwydd iddynt ar y cyfryngau cymdeithasol. Fydd neb yn gallu’ch adnabod mewn unrhyw ganfyddiadau a gyhoeddir; bydd unrhyw ddyfyniadau a ddefnyddir wrth adrodd yn cael eu troi’n ddyfyniadau dienw. 

Sut alla i ddysgu am ganfyddiadau'r prosiect?

  • Byddwch yn cael crynodeb o'r canfyddiadau drwy e-bost pan fyddan nhw’n barod, os ydych wedi dewis bod modd i ni gysylltu â chi at y diben hwn. Gallwch roi gwybod i ni ar ddiwedd yr arolwg os byddwch yn dewis cymryd rhan.

Sut byddwch yn gofalu am fy nata?

Mae’ch preifatrwydd yn bwysig i ni

Mae’ch preifatrwydd yn bwysig i’r RNIB a'n tîm yma yn Thiscovery. Rydyn ni’n cadw’ch gwybodaeth yn saff ac yn ddiogel.

 

Mae'r ymchwil hwn yn ein helpu i ddeall sut mae cleifion yn gwneud dewisiadau gofal iechyd. Bydd eich atebion yn ein helpu i wella gwasanaethau’r GIG yn eich ardal chi.

 

Pwy sy'n casglu’ch gwybodaeth?

Yr RNIB sydd wedi gofyn i ni wneud yr ymchwil hwn. Maen nhw eisiau gwybod pa syniadau ac atebion ymarferol rydych chi'n credu fyddai'n ddefnyddiol neu ddim yn ddefnyddiol, pe baen nhw’n cael eu rhoi ar waith, a pha rai y dylid eu blaenoriaethu dros y ddwy flynedd nesaf, er mwyn gwella cymorth i bobl sy'n ddall neu â golwg rhannol.  

Thiscovery sy’n casglu’ch atebion i’r arolwg ar ran yr RNIB. Rydyn ni’n dilyn rheolau llym i gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel.

 

Efallai fod yr RNIB wedi anfon gwybodaeth atoch am yr ymchwil hwn. Dydyn nhw ddim wedi rhannu’ch manylion cyswllt chi gyda ni.

 

Pa wybodaeth fyddwn ni'n ei chasglu?

Eich adborth ar syniadau ac atebion ymarferol:

Pa syniadau ydych chi'n credu fyddai'n ddefnyddiol neu ddim yn ddefnyddiol a pham

Pa syniadau ac atebion ymarferol y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt

 

Gwybodaeth amdanoch chi:

Eich grŵp oedran:

Eich rhywedd (mae hwn yn ddata “categori arbennig” sy’n cael ei ddiogelu’n ychwanegol)

Eich cefndir ethnig (mae hwn yn ddata “categori arbennig” sy’n cael ei ddiogelu’n ychwanegol)

Yr amhariad ar eich golwg neu’r amhariad ar olwg y person rydych chi'n eu cefnogi (mae hwn yn ddata “categori arbennig” sy'n cael ei ddiogelu'n ychwanegol)

Eich rôl broffesiynol os ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol gyda phobl sy'n ddall neu â golwg rhannol neu sy'n cael cymorth neu wasanaethau amhariad ar y golwg.

 

Eich manylion cyswllt (dewisol):

Dim ond os ydych chi eisiau diweddariadau am ganlyniadau'r ymchwil neu i gael gwybod am gyfleoedd tebyg yn y dyfodol y bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yncael eu casglu.

 

Pwysig: Dydyn ni ddim yn casglu’ch enw yn ystod yr arolwg. Ond gallai'r gymysgedd o wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni ei gwneud hi'n bosib i ni ddarganfod pwy ydych chi.

 

Hawl i dynnu'n ôl: Gallwch roi'r gorau i gymryd rhan unrhyw bryd a dewis peidio ateb unrhyw gwestiynau.

 

Cydymffurfiaeth â Chod MRS: Cynhelir yr ymchwil hwn ynunol â Chod Ymddygiad Cymdeithas Ymchwil Marchnad a deddfau diogelu data gwledydd Prydain.

 

Pam rydyn ni’n gallu defnyddio’ch gwybodaeth?

Ar gyfer eich atebion i’rarolwg: Mae ei hangen arnon ni er mwyn i'r RNIB gynnal eu hymchwil, fel 'tasg er budd y cyhoedd'. Mae'r ymchwil hwn yn eu helpu i wybod pa syniadau ac atebion ymarferol i fwrw ymlaen â nhw yn eu gwaith dros y ddwy flynedd nesaf.

 

Ar gyfer data categori arbennig (iechyd ac ethnigrwydd): Mae ei hangen arnon ni er mwyn deall sut gallai’r amhariad ar eich golwg, neu’r amhariad ar olwg y person rydych chi'n eu cefnogi, eich cefndir ethnig, eich rhywedd ac, i weithwyr proffesiynol sut gall eich rôl effeithio ar yr hyn y mae pobl yn ei feddwl am y syniadau a'r atebion ymarferol a sut y dylid eu blaenoriaethu.

 

Ar gyfer eich manylion cyswllt: Dim ond os dewiswch eu rhoi i ni. Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd.

 

Sut fyddwn ni'n cadw’ch gwybodaeth yn ddiogel?

Rydyn ni’n cadw pethau ar wahân:

Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cadw ar wahân i’ch atebion i’r arolwg.

Mae’ch atebion i’r arolwg yn defnyddio rhif yn lle’ch enw.

Mae hyn yn golygu na allwn gysylltu’ch enw â'ch atebion.

 

Rydyn ni’n defnyddio systemau diogel:

Mae'r holl wybodaeth yn cael ei hamgryptio (ei sgramblo) a'i storio'n ddiogel.

Dim ond y tîm ymchwil all weld eich gwybodaeth.

Rydyn ni’n dilyn Cod Ymddygiad Cymdeithas Ymchwil Marchnad a deddfau diogelu data gwledydd Prydain o ran materion diogeledd.

Rydyn ni’n defnyddio offer dileu ardystiedig pan fyddwn yn dileu data.

 

Dadansoddi a throsglwyddo data:

Bydd Thiscovery yn dadansoddi’ch atebion i’r arolwg ac yn creu adroddiad dealltwriaeth ar gyfer yr RNIB.

Fydd Thiscovery ddim yn trosglwyddo dim o'ch atebion i’r arolwg na'ch gwybodaeth gyswllt i’r RNIB.

 

Pwysig: Dydy anfon gwybodaeth dros y rhyngrwyd byth yn gyfan gwbl ddiogel (100%). Rydyn ni’n gwneud ein gorau i'w diogelu, ond allwn ni ddim addo diogeledd llwyr.

 

Sut bydd yr RNIB yn defnyddio’ch atebion?

Dadansoddiad gan Thiscovery:

Bydd Thiscovery yn dadansoddi’ch atebion i’r arolwg er mwyn deall pa syniadau ac atebion ymarferol y credir eu bod yn ddefnyddiol, petaen nhw’n cael eu rhoi ar waith, a pha rai y dylai’r RNIB eu blaenoriaethu.

Bydd Thiscovery yn creu adroddiad dealltwriaeth fydd yn egluro’r hyn a ddangoswyd gan yr ymchwil.

Bydd yr adroddiad dealltwriaeth yn edrych ar wahaniaethau rhwng gwahanol grwpiau o bobl.

Bydd yr RNIB yn defnyddio'r adroddiad dealltwriaeth i lywio eu gwaith yn y dyfodol o ran sut y gellir gwella cymorth i bobl sy'n ddall neu â golwg rhannol.

 

Bydd eich atebion yn cael eu cymysgu ag atebion pawb arall. Fydd neb yn gallu dweud pa atebion yw’ch atebion chi.

 

Gyda phwy fyddwn ni'n rhannu’ch gwybodaeth?

Fyddwn ni ddim yn rhannu dim o’ch data o’r arolwg na’ch manylion cyswllt gyda'r RNIB. Dim ond yr adroddiad dealltwriaeth y byddwn ni’n ei rannu gyda nhw. Fydd dim modd eich adnabod o'r adroddiad hwn.

Fyddwn ni ddim yn rhannu dim o’ch data o’r arolwg na’ch manylion cyswllt gydag unrhyw drydydd partïon eraill.

 

Os byddwch yn rhoi’ch manylion cyswllt i ni, dim ond Thiscovery fydd yn cysylltu â chi ynglŷn â'r ymchwil.

Am ba mor hir y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth?

Eich atebion i’r arolwg:

Mae Thiscovery yn eu cadw am 24 mis ar ôl i'r prosiect ddod i ben

 

Eich manylion cyswllt:

Yn cael eu dileu ar unwaith os gofynnwch i ni eu dileu

Yn cael eu dileu pan fyddwch chi heb fod yn weithredol ers 24 mis

 

Crynodebau ymchwil (adroddiad dealltwriaeth): Gellir eu cadw am byth i helpu’r RNIB i gynllunio gwaith yn y dyfodol (ond fydd y rhain ddim yn eich adnabod chi).

 

Eich dewisiadau a'ch hawliau

Gallwch:

Roi’r gorau i gymryd rhan unrhyw bryd yn ystod yr arolwg

Hepgor cwestiynau nad ydych chi eisiau eu hateb

Gofyn am gael gweld pa wybodaeth sydd gennym amdanoch chi

Gofyn i ni gywiro gwybodaeth anghywir

Gofyn i ni ddileu’ch manylion cyswllt (byddwn yn gwneud hyn ar unwaith)

Gwneud cwyn os nad ydych chi'n hapus

 

Pwysig:

Os na fyddwch chi'n rhoi’ch manylion cyswllt i ni, efallai na fyddwn ni'n gallu dileu’ch atebion i’r arolwg yn ddiweddarach. Mae hyn oherwydd na fyddwn yn gwybod pa atebion yw’ch rhai chi.

 

Fydd cymryd rhan neu beidio cymryd rhan yn yr ymchwil hwn ddim yn effeithio ar eich gofal iechyd.

 

Canlyniadau ymchwil

Os byddwch yn rhoi’ch manylion cyswllt i ni, bydd Thiscovery yn dweud wrthych:

  • Beth a ddarganfuwyd gan yr ymchwil
  • Sut mae’r RNIB yn ei ddefnyddio, neu'n bwriadu ei ddefnyddio, i helpu i wneud gwelliannau i gymorth i bobl sy'n ddall neu â golwg rhannol.

Cysylltwch â ni

Cwestiynau am yr arolwg: Anfonwch e-bost at Thiscovery drwy help@thiscovery.org

 

Cwestiynau am sut mae’r RNIB yn defnyddio gwybodaeth: https://www.rnib.org.uk/privacy-policy/  

 

Cwynion: https://www.rnib.org.uk/customer-feedback-and-complaints/

 

Problemau diogelu data: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – https://cy.ico.org.uk/    

 

Eich cydsyniad

Drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn, rydych chi'n cytuno i’r canlynol:

 

Gall Thiscovery gasglu’ch atebion ar ran yr RNIB.

Gall Thiscovery ddadansoddi’ch atebion i lunio adroddiad dealltwriaeth ar gyfer yr RNIB.

Gall yr RNIB ddefnyddio'r adroddiad dealltwriaeth i ddeall pa syniadau ac atebion ymarferol y dylid eu blaenoriaethu a pham, er mwyn llywio eu gwaith yn y dyfodol ar sut y gellir gwella cymorth i bobl ddall a phobl â golwg rhannol.

 

Gallwch roi'r gorau i gymryd rhan unrhyw bryd.

 

Diolch i chi am helpu i lunio syniadau ar gyfer gwelliannau mewn cymorth i bobl sy'n ddall neu â golwg rhannol.