Sut ydw i'n cymryd rhan?
- Bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad i weld a ydych yn gymwys a llenwi ffurflen gydsynio ar-lein, cyn cwblhau'r arolwg.
- Mae'r arolwg wedi'i ddylunio i gasglu eich barn ar sut mae'r diwygiadau i ardystio marwolaethau yn gweithio'n ymarferol, gan gynnwys effeithiau cadarnhaol ac unrhyw bryderon neu heriau.
- Ar y diwedd, byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau dewisol am eich cefndir proffesiynol.
Oes rhaid i mi ateb yr holl gwestiynau?
- Nid oes rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y byddwch yn ateb cymaint o gwestiynau â phosibl, gan y bydd hyn yn darparu'r wybodaeth orau bosibl am eich barn a'ch profiad.
Faint o amser fydd yn ei gymryd?
- Mae disgwyl i'r arolwg gymryd tua 20 munud, ond gallwch gymryd cymaint o amser ag sydd ei angen arnoch i lenwi'r arolwg.
Ga i gymryd seibiant ar ganol ateb cwestiynau?
- Cewch – does dim rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau ar unwaith ond os oes angen i chi gymryd seibiant, cadwch y porwr ar agor fel na fyddwch chi’n colli’r hyn rydych chi wedi’i wneud.Ar ôl i chi gwblhau pob tudalen, pwyswch y botwm 'nesaf' neu 'cyflwyno' fel y byddwn yn derbyn eich ymatebion hyd at y pwynt hwnnw.
Ga i ofyn am help i ateb y cwestiynau?
- Cewch. Gallwch ofyn i rywun eich helpu i ganfod eich ffordd drwy Thiscovery neu ateb y cwestiynau, os hoffech.
- Os gofynnwch am help, cofiwch ateb y cwestiynau o'ch safbwynt eich hun, yn hytrach na barn y sawl sy'n helpu.
Oes dyddiad cau ar gyfer ateb y cwestiynau?
- Mae'r arolwg yn cau ar gyfer ymatebion ar [add date here]. Atebwch yr holl gwestiynau yr hoffech eu hateb erbyn y dyddiad hwn.
Beth os ydw i eisiau rhoi'r gorau i gymryd rhan?
- Os gwnaethoch chi ddewis darparu cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg, gallwch chi dynnu data personol a/neu ddata ymchwil yn ôl hyd at wythnos ar ôl i'r arolwg gau [insert date].
- Os na fyddwch yn darparu eich manylion cyswllt, efallai na fyddwn yn gallu dileu eich atebion i’r arolwg yn ddiweddarach. Mae hyn am na fyddwn yn gwybod pa atebion yw eich rhai chi.
- I dynnu'n ôl o'r prosiect anfonwch e-bost at help@thiscovery.org
Pa fanteision allai fod i gymryd rhan?
- Drwy gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, bydd cyfle i chi rannu eich barn ar y diwygiadau i ardystio marwolaethau a gweithrediad y system archwilio meddygol. Bydd y safbwyntiau hyn yn helpu tîm y prosiect i ddeall beth sy'n gweithio'n dda, nodi heriau, a llywio gwelliannau i'r broses ardystio marwolaethau.
A oes unrhyw anfanteision neu risgiau o gymryd rhan?
- Nid ydym yn rhagweld bod unrhyw risgiau ynghlwm wrth gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Nid oes rhaid i chi ateb unrhyw gwestiynau nad ydych chi eisiau a gallwch roi’r gorau iddi ar unrhyw adeg.